Darganfyddiadau o Feillionydd
Gan fod y  priddoedd yn asidig ni chafwyd hyd i gasgliadau o esgyrn anifeiliaid ac mae’n  amlwg bod y safle’n perthyn yn bennaf i’r Oes Haearn aceramig, oherwydd  absenoldeb crochenwaith. Mae’r darganfyddiadau o Feillionydd yn cynnwys  casgliad nodweddiadol o arteffactau carreg o’r cyfnod cynhanesyddol  diweddarach, megis cerrig rhwbio, pestlau, sidelli gwerthyd a cherrig  morthwylion. Mae dwy o’r sidelli gwerthyd heb gael eu gorffen sy’n tystio i  weithgareddau cynhyrchu ar y safle. Lluniwyd un o’r cerrig morthwylion o garreg  Mynydd y Rhiw, a oedd efallai wedi’i chodi o’r ffatri fwyeill Neolithig ar gopa  Mynydd y Rhiw, a chafwyd hyd i nifer o sglodion eraill o ffosydd ym  Meillionydd. Mae presenoldeb carreg Mynydd y Rhiw yn bur ddiddorol. Yn ystod  cloddiad Steve Burrow o’r ffatri fwyeill cafwyd dyddiadau radio carbon o’r Oes  Efydd Ddiweddar (Burrows pers.comm), sy’n awgrymu fod y garreg yn bwysig i  gymunedau yng nghanrifoedd cynnar y mileniwm cyntaf CC. 
Mae darn  o freichled muchudd a dau sidell plwm, yn ogystal â phedwar glain gwydr, hefyd  wedi cael eu darganfod yn y draeniau. Mae gennym un darn bychan iawn o  grochenwaith a all fod yn llestr a fewnforiwyd yn ddiweddarach yn yr Oes  Haearn, neu gall ei ddyddiad hyd yn oed fod o’r cyfnod Rhufeinig-Frythonig.  Rydym yn disgwyl am wybodaeth bellach ynghylch y dernyn hwn. 
    
Mae  gennym gasgliad mawr o frigau llosg o wahanol rannau o’r safle a bydd profion  dyddio radio carbon yn cael eu cynnal ar y rhain unwaith y cawn gyllid. Mae’r  dyddiadau radiocarbon cyntaf i’r dilyniant tai crwn yn ein draen 3 yn dangos  anheddu ar y safle rhwng c. 750 a 200 cal. CC. Rydym hefyd wedi casglu a  phrosesu nifer fawr o samplau pridd amgylcheddol, a fydd yn rhoi gwybodaeth am  y casgliadau planhigion ar y safle. 
  

Casgliad o arteffactau carreg o’r cloddiadau 
  

Y freichled muchudd y cafwyd hi  iddi ar waelod twll postyn yn nraen 1
  

Y sidell blwm o’r Oes Haearn ddiweddarach a ddarganfuwyd ymysg haenau uchaf cerrig mewnlenwi un o’r tai crwn carreg

Glain gwydr wedi’i addurno a gafwyd ar waelod twll postyn yn ystod cloddiadau 2015.
Cliciwch yma i weld delwedd 3D o  un o’r sidelli gwerthyd carreg anorffenedig.  
    Cliciwch yma i weld delwedd 3D o  un o’r sidelli plwm. 
    Cliciwch  yma i weld delwedd 3D o’r darn o freichled muchudd.
