Y tymhorau cloddio

Cynnwys

Canlyniadau cloddiadau 2010 (Tymor 1)

Cadarnhaodd tymor cyntaf y cloddiadau ym Meillionydd bresenoldeb cloddiau pridd a cherrig a dangoswyd bod pantiau cloddio ger y cloddiau. Yn y traeniau a agorwyd trwy dafelli o du mewn y lloc gwelwyd tystiolaeth o ddilyniant maith o anheddu, a oedd mae’n bosibl yn rhychwantu’r rhan fwyaf o’r mileniwm cyntaf CC. Dangoswyd hyn gan ddilyniannau lluosog o dai crynion pren a cherrig a adeiladwyd yn yr un mannau.

Traen 1

Roedd Traen 1 yn archwilio slot cul drwy’r clawdd mewnol a’r ffos/pant cloddio yn rhan dde-ddwyreiniol y lloc. Roedd y dilyniant o dai crynion ym mhen gogledd-orllewinol y draen yn cynnwys nifer o dyllau pyst a rhigolau, a oedd yn dynodi un neu ddau o adeileddau pren, a ddilynwyd gan adeiladu tŷ crwn gyda waliau cerrig, tua 5m mewn diamedr. Roedd y clawdd mewnol, wedi’i leoli i’r dwyrain, wedi’i osod yn rhannol o fewn traen linol fas a oedd yn cynnwys aliniad o gerrig mawr wedi’u gosod yn fwriadol. Cynrychiolir y dilyniant yn y pen de-ddwyreiniol gan gyfres o ffosydd terfyn. Amgaewyd yr anheddiad i ddechrau gan ffos gul siâp U. Byrhawyd hon yn ddiweddarach drwy greu pant cloddio bas a llydan gyda gwaelod fflat iddo, wedi’i leoli yn union o flaen y clawdd allanol yn Nhraen 2 (ac yn gysylltiedig mae’n debyg â’i adeiladu). Mae’r rwbel sy’n llenwi’r pant cloddio’n awgrymu ei fod wedi cael ei lenwi’n fwriadol, mae’n bosibl pan adawyd y safle pan gafodd y tai crynion a’r cloddiau amgylchynol eu dinistrio.

Traen 2

Roedd Traen 2 yn ymchwilio i slot drwy’r clawdd allanol ar ochr dde-ddwyreiniol y lloc, ger y fynedfa. Adeiladwyd y clawdd o lwyth syml o bridd a cherrig, a oedd yn cynnwys rhai cerrig llosg, a gwelwyd rhai cerrig yn wynebu at i mewn. Roedd yr adeiledd hwn wedi ei niweidio’n ddrwg a’i fyrhau. Gwelwyd rhai nodweddion diddorol o dan y clawdd yng nghornel dde-orllewinol y draen ac yn union o’i flaen – amlygwyd y nodweddion hyn ond fe’u gadawyd heb eu cloddio. Maent yn cynnwys tri o dyllau pyst a sylfaen wal gromlinog; gall hon fod naill ai’n gysylltiedig â’r clawdd neu efallai’n dangos adeileddau a oedd yn bodoli cyn adeiladu’r clawdd.

Traen 3

Tyllwyd Traen 3 mewn ardal lle cafwyd darlleniadau magnetig uwch yn rhan ddwyreiniol tu mewn y lloc. Gwelwyd dilyniant o fan leiaf ddau dŷ crwn pren a thri thŷ crwn carreg yn yr ardal hon, wrth ochr gweddillion y clawdd mewnol. Cynrychiolir tŷ crwn pren cynnar gan arc o dyllau pyst sy’n ymddangos eu bod yn diffinio adeilad crwn gydag aelwyd ganolog iddo.  Yna cafodd o leiaf un, neu efallai ddau, o dai crynion cerrig eu hadeiladu yn yr un fan, a’u lleoli mewn pant a nodwyd ar hyd ochr ogledd-orllewinol y draen, a oedd yn creu llwyfan neu deras gwastad. Roedd y tŷ crwn carreg diweddaraf tua 8m mewn diamedr, gyda mynedfa i’r de ddwyrain.  Lluniwyd yr adeilad o wal drwchus wedi’i wynebu â cherrig gyda llanw o bridd neu dyweirch iddi. Yn y tŷ crwn, cafwyd twll mawr wedi'i leinio â cherrig, a hefyd darganfuwyd dwy sidell garreg dan haenau’r llawr.

 

Wal y tŷ crwn carreg yn Nhraen 3

 

Wal y tŷ crwn carreg yn Nhraen 3, a oedd yn selio twll aelwyd yn gysylltiedig â thŷ crwn pren cynharach.

 

Canlyniadau cloddiadau 2011 (Tymor 2)

Yn ystod tymor cloddio 2011 fe wnaethom ailagor ac ymestyn traeniau arbrofol 2010 ar ochr dde ddwyrain y lloc, ger y fynedfa, er mwyn gweld nodweddion gwahanol rannau o’r safle. Roedd Traen 1 yn wreiddiol yn edrych ar dŷ crwn, y clawdd mewnol a rhan o bant cloddio. Cafodd ei hymestyn yn 2011 i’r dwyrain ac i’r gorllewin fel y gellid archwilio rhan lawn drwy’r clawdd allanol a mewnol a’r tŷ crwn mewnol.  Roedd Traen 2 yn wreiddiol yn archwilio’r clawdd allanol ac fe’i hymestynnwyd yn 2011 i archwilio mwy ar adeiladwaith y clawdd a’r pant cloddio.  Roedd Traen 3 yn archwilio rhan o’r clawdd mewnol a’r tai crynion.

Dangosodd y cloddiadau bod y clawdd allanol wedi’i adeiladu o lwythi syml o bridd a cherrig, wedi’i wynebu’n arw â cherrig.  Mae pant cloddio llydan, tua 6m o led, o flaen y clawdd allanol.  Roedd yn byrhau ffos gynharach a welir ar yr arolwg geoffiseg ac sy’n rhan o derfyn cynharach ei gyfnod.  Roedd tystiolaeth o weithgaredd anheddu o gyfnod diweddarach yn hanes yr anheddiad hefyd yn y pant cloddio.  Yn weddol annisgwyl, datgelodd yr estyniad i draen 2 bod y clawdd yn cynnwys yn rhannol dŷ cerrig crwn diweddarach.  Efallai bod yr adeilad hwn, a oedd yn gysylltiedig â’r clawdd allanol ac wrth ochr y fynedfa i’r lloc, wedi chwarae rhan bwysig yn yr anheddiad.

Y tŷ crwn carreg wedi’i adeiladu i mewn i’r clawdd allanol wrth ochr y fynedfa, Traen 2.  

Mae’r clawdd mewnol yn wahanol iawn.  Roedd hwn mewn cyflwr gwael a dim ond y cerrig sylfaen a oroesodd – ceir trefniant llinellog o gerrig mawr wedi’u gosod mewn traen sylfaen fas a oedd yn syth y tu ôl i lwyfan tŷ crwn.  Mae’r cerrig a daflwyd i’r pant cloddio’n dangos bod y cloddiau wedi cael eu chwalu’n fwriadol yn ystod y cyfnod anheddu neu pan adawyd y safle.

Y tu mewn i’r clawdd cafwyd tai crynion pren a charreg o wahanol gyfnodau.  Roedd llwyfan y tŷ crwn yn estyniad gorllewinol traen 1 wedi’i osod o fewn pant bas, ac ar y llawr ceir nifer o dyllau pyst a thyllau mawr.  Roedd slot wal gromlinog tŷ crwn a adeiladwyd o blanciau’n terfynu mewn twll mawr gyda cherrig pacio, a oedd mae’n debyg yn dal postyn drws mynedfa a oedd yn wynebu’r dwyrain.  Roedd rhan o wal gerrig gromlinog wedi’i lleoli’n nesaf at y slot wal.  Dehonglwyd hon yn wreiddiol fel gweddillion tŷ crwn carreg diweddarach a oedd wedi’i adeiladu i mewn i’r clawdd, er y gall fod yn wyneb wal allanol yn gysylltiedig â’r tŷ crwn a adeiladwyd o blanciau.  Pan adawyd y safle, cafodd llwyfan y tŷ crwn ei fewnlenwi’n fwriadol â haenau cywasgedig o rwbel sy’n ymddangos fel pe bai’n dod yn rhannol o chwalu’r clawdd cyfagos.  Mae hyn yn bacio sylweddol, tua 50cm  o drwch, sy’n cynnwys llawer o gerrig yr effeithiwyd arnynt gan wres ac sy’n sicr yn fewnlenwi bwriadol.

Y clawdd allanol, yn dangos y cerrig garw yn wynebu at i mewn.

Meillionydd Trench 1.jpg

Y llwyfan tŷ yn estyniad gorllewinol Traen 1, yn dangos y tyllau cyn eu cloddio a rhigol y wal gromlinog, gyda cherrig pacio unionsyth yn eu lle (cafodd y darn rhigol a welir yn y tu blaen ei gloddio yn 2010). Mae’r cerrig a ddefnyddiwyd i lenwi’r tŷ crwn yn hollol amlwg yn y toriad hwn.

Y llwyfan tŷ a’r nodweddion yn llawr y tŷ crwn yn estyniad gorllewinol Traen 1.

Gwelwyd nifer o dai crynion yn Nhraen 3.  Cynrychiolir y cyfnodau anheddu cynnar gan dyllau bychain a rhigol sy’n anodd eu hail-greu.  Gwelwyd yn glir dŷ crwn wedi’i adeiladu o byst pren, tua 12m mewn diamedr, ac roedd hwn yn cynnwys twll aelwyd canolog.  Roedd tystiolaeth ei fod wedi’i ailadeiladu o leiaf unwaith ac mae twll pyst mawr dwbl yn y de ddwyrain yn dangos lleoliad cyntedd mynedfa.  Mae’r aelwyd ganolog yn sicr yn perthyn i’r cyfnod hwn gan iddi gael ei byrhau a’i selio gan wal tŷ crwn carreg diweddarach.  Mae dyddiad o 753-410 cal. BC (2 sigma; GU26311) ar frigau llosg o’r aelwyd yn cadarnhau dyddiad cynharach o’r Oes Haearn i’r adeilad.   Ar ôl iddo gael ei adael, cafodd toriad sylweddol ar gyfer teras ei greu ac o fewn hwn ceir peth tystiolaeth o ddau dŷ crwn.  Roedd yr ail gam yn fwy amlwg.  Mae gan y tŷ crwn carreg hwn ddiamedr o tua 9m, gyda mynedfa i’r de orllewin.  Lle roedd y wal gydag wyneb o gerrig wedi’i hadeiladu o fewn toriad y teras, roedd yn sefyll i uchder o 0.75m a thua 1.5m o drwch.  Ar lawr y tŷ roedd nifer o dyllau a oedd yn cynnwys twll storio wedi’i leinio â cherrig a nifer o bantiau gweithio.  Rhoddodd un o’r pantiau gweithio olaf ddyddiad o 384-203 cal. BC (2 sigma; GU26312), a fyddai’n gosod yr adeilad hwn yn yr Oes Haearn Ganol.   Roedd yr adeilad hefyd wedi cael ei lenwi’n fwriadol â rwbel cerrig a chafwyd hyd i dri o sidelli gwerthyd yno, dau ohonynt yn anorffenedig.  Gall yr arteffactau hyn fod yn dystiolaeth o ddefodau sylweddol a gynhaliwyd yn yr anheddiad pan gafodd ei adael.

Y nodweddion cysylltiedig â’r tŷ crwn pren yn Nhraen 3.

Y tŷ crwn carreg o’r Oes Haearn Ganol yn Nhraen 3.

 

Canlyniadau cloddiadau 2012 (Tymor 3)

Yng Ngorffennaf 2012 fe wnaethom agor traen fawr, tua 12m wrth 24m, a oedd yn estyniad o draeniau 1 a 2 blaenorol. Our main aims were to uncover all of a stone roundhouse that we partially exposed the year before.  Mae’r adeilad hwn wedi’i adeiladu mewn pant cloddio llydan sydd o flaen y clawdd allanol.  Defnyddiwyd y pant cloddio i godi deunydd i adeiladu’r clawdd, ac felly nid oeddem yn disgwyl darganfod tŷ yno.  Mae wedi’i leoli wrth ochr y fynedfa drwy’r clawdd allanol ac felly efallai bod ganddo swyddogaeth arbennig yn yr anheddiad.  Fe wnaethom gloddio’r holl rwbel a phridd a oedd wedi llenwi’r tŷ ar ôl iddo gael ei adael, a dadorchuddiwyd y waliau ar bob ochr iddo. The features in the house floor were not excavated and had been saved for the 2013 excavations.  Roedd y tŷ’n amlwg yn sefyll ar ben lloc cynharach a ffos o’i amgylch.  Cawsom hyd i rai gwrthrychau carreg, megis cerrig hogi a morthwylion, yn ogystal â sidell gwerthyd neu bwysau plwm, yn ogystal â darn o grochenwaith o’r Oes Haearn ddiweddarach.  Mae crochenwaith a gwaith metel yn brin iawn yn yr Oes Haearn yng ngogledd orllewin Cymru, lle mae’r priddoedd yn asidig a’r cymunedau aceramig. Felly, mae’r darganfyddiadau hyn yn rhai cyffrous.  

Y tŷ wedi’i adeiladau i mewn i’r clawdd allanol a’r pant cloddio.

 

Fe wnaethom hefyd gloddio’r fynedfa drwy’r clawdd mewnol, yn ogystal â llwybr sy’n arwain drwy’r fynedfa i’r anheddiad.  Mae wyneb cerrig garw ar y llwybr ac roedd yn arwyneb caled da i anifeiliaid, pobl a cherti a oedd yn mynd i mewn i’r lloc.  Roedd wyneb mewnol y clawdd yn y fynedfa wedi’i wneud o flociau o gerrig mawr a fyddai wedi edrych yn drawiadol iawn yn ei ddydd, er bod y terfyn mewn cyflwr gwael iawn heddiw.  O dan un o’r cerrig wyneb cafwyd sidell gwerthyd neu bwysau plwm arall.

 Description: http://meillionydd.bangor.ac.uk/images/clip_image002_0000.jpg

Cynllun o Draen 1 ac estyniad gorllewinol Traen 1, yn dangos llwyfan y tŷ crwn, y clawdd mewnol ac arwyneb cerrig y llwybr drwy’r fynedfa.  Nid yw’r holl ddyddodion wedi cael eu digideiddio ar y cynllun hwn ond mae’n rhoi syniad o natur y clawdd mewnol a’r llwyfan tŷ crwn wrth ei ochr.

 

Cynlluniau ar gyfer cloddiadau 2013 (Tymor 4)

Yn ystod tymor 2013 gwnaethom ail-agor ein traen mawr o'r tymor blaenorol i gynyddu ein gwybodaeth am y fynedfa a'r llociau ac i gwblhau cloddio'r tŷ crwn cerrig rhwng y clawdd mewnol a'r clawdd allanol wrth ymyl llwybr y fynedfa.

 

\

Dehongliad GPR o'r lloc cylchfur dwbl ym Meillionydd yn dangos yr hen draeniau a'r traeniau fydd yn cael eu hagor (llun: R. Karl)
Yn Nhraen 1, roeddem eisoes yn 2012 wedi cael hyd i'r fynedfa drwy'r lloc mewnol, a nodweddir gan y clawdd yn troi tuag i mewn i fynedfa gymharol gul (tua 3 metr o ran lled). Roedd gan lwybr y fynedfa haenen goblog o gerrig mân wedi'u gwasgu'n dynn, mae'n debyg nai hwn oedd arwyneb cyfnod diweddarach y fynedfa. Wrth archwilio'r haenen hon ymhellach yn 2013, roeddem yn gallu gweld ail haenen goblog o gerrig bach oddi dano, sef llwybr y fynedfa i'r lloc pren cynharaf, gyda physt mawr y porth pren hirsgwar ger cornel gogledd-ddwyreiniol traen 1 a chornel gogledd-orllewinol traen 2.


Staff cloddio yn sefyll yn nhyllau pyst y lloc pren cynnar yn nhraen 1 a thraen 2 (wedi'u cyfuno yn 2013). Dau aelod staff yn sefyll wrth ymyl ei gilydd i farcio twll post dwbl (llun: R. Karl).

Yn Nhraen 2, gorffennwyd cloddio'r tŷ crwn carreg yn y pant cloddio sydd wedi'i leoli union y tu mewn i glawdd allanol y safle. Yn y llawr, roedd cylch o byst pren i gynnal y to ac roedd y pyst wedi’u cadw’n dda, cwter draenio o gryn faint, a phwll lludw mawr ger y canol, mae'n debyg yn gysylltiedig â lle tân neu aelwyd. Roedd y tŷ hefyd wedi'i osod ar ben y ffos siâp pedol o'r cyfnod pren cynnar, a oedd yn diweddu yn y gwter hon y tu mewn i lawr y tŷ crwn. O fewn cyffiniau'r ffos, roeddem yn gallu dynodi nifer o wrthrychau haearn oedd wedi eu taflu yno, ond roeddent wedi rhydu i'r fath raddau fel nad oedd yn bosib adnabod pa eitemau oedd y rhan fwyaf ohonynt yn wreiddiol. Wrth ymyl ochr ogleddol traen 2, roedd arwyneb coblog y ffordd yn parhau o'r man lle roeddem wedi'i weld yng nghornel gogledd-ddwyreiniol traen 1 tuag at y fynedfa i'r lloc allanol, sydd wedi'i leoli ar gyrion ardal traen 2. Hefyd o dan y clawdd llwyddom i weld haenen goblog, sy'n dangos y bu iard coblog tu allan i'r porth pren yn y cyfnod cynharaf, yn ymestyn tua 10 metr o'r gât mewn siâp hanner cylch o bosib.


Traen 1 a 2 wedi'u cyfuno. Gellir gweld gwahanol nodweddion. Lelog: palisâd pren cynnar a phorth. Glas golau: ffos siâp pedol yn gysylltiedig â'r palisâd pren. Glas tywyll: tŷ crwn pren, mae'n debyg o'r un cyfnod â'r palisâd pren. Oren: haenen goblog o'r cyfnod cynnar, yn ffurfio iard coblog tu allan i'r porth pren. Coch: cloddiau'r cyfnod diweddaraf, yn ffurfio'r cylchfur dwbl - sylwer ar y mynedfeydd sy'n troi tuag i mewn. Melyn: arwyneb coblog mynedfa'r cyfnod diweddaraf. Brown: Tŷ crwn carreg wedi'i leoli yn y clawdd mewnol ger y fynedfa. Gwyrdd: Tŷ crwn carreg gyda chylch o byst pren a thwll lludw canolog, wedi'i adeiladu mewn chwarel wag a chlawdd allanol yn agos at ddiwedd y dilyniant o bobl a fu'n byw ar y safle (llun: F. Ohl).

Canlyniadau'r gwaith cloddio yn 2014 (Tymor 5)

Yn 2014 fe wnaethom agor drwy draen newydd (traeniau 4 a 5) i archwilio ymhellach y ffordd goblog sy'n arwain o'r fynedfa drwy'r clawdd allanol i'r fynedfa fewnol.  Tra bod traen 4 wedi ei lleoli i'r Gogledd Ddwyrain o draeniau blaenorol 1 a 2, roedd traen 5 yn cysylltu traen newydd 4 â thraen 3 o 2010, a thrwy hynny greu ardal wedi'i chloddio o c.800m2.

Traen 4

Roedd Traen 4 yn archwilio’r fynedfa drwy'r clawdd allanol.  Roedd dau derfyn y clawdd i'w gweld yn glir.  Fodd bynnag, yn y ddau achos dim ond rhes waelod cerrig wyneb oedd yn dal in situ.  Fodd bynnag, roedd yr haen a oedd yn weddill yn ei gwneud yn bosibl penderfynu bod y rhodfa fynediad c. 1.8m o led.  Yn wahanol i'r fynedfa drwy'r lloc mewnol - a oedd wedi ei throi at i mewn ac i weld fel pe bai ganddi borthdy sylweddol - y cyfan yw'r fynedfa drwy'r lloc allanol yw bwlch syml yn y clawdd ac nid oedd yn cynnwys porthdy.   Yn hytrach, mae'r ychydig dyllau pyst bychain a gafwyd yn gysylltiedig â'r fynedfa allanol yn dynodi mai giât fechan, debyg i giatiau modern ar gaeau, oedd yno i gau'r fynedfa allanol - os oedd un yno gwbl hyd yn oed.

Roedd y ffordd gydag wyneb cerrig, a ddarganfuwyd yn ystod y blynyddoedd blaenorol, yn mynd drwy fynedfa'r clawdd allanol a'i chysylltu â'r fynedfa drwy'r clawdd mewnol.  Mae'n ymddangos bod terfyn deheuol y clawdd allanol wedi gorchuddio cam cynharach wynebu'r ffordd ac felly mae hwnnw'n perthyn i gyfnod adeiladu cynharach, cyn i'r clawdd allanol gael ei adeiladu.

Yn cyfateb i'n canlyniadau o flynyddoedd blaenorol, dadorchuddiwyd y pant cloddio yn ogystal â therfyn gogleddol y ffos siâp U a  rhesaid llinellol o dyllau pyst yn cynrychioli palisâd coed un o'r cyfnodau adeiladu cynharaf.  Ar waelod y ffos siâp U darganfuwyd cyllell naddu wedi cyrydu'n ddifrifol.  Roedd gwteri draenio yn gysylltiedig â therfyn gogledd a deheuol y pant cloddio, ac ymddengys ei fod wedi ei greu i gael deunydd i adeiladu'r clawdd allanol.  Roedd y gwter yn draenio terfyn gogleddol y pant cloddio'n mynd allan o'r lloc drwy'r llwybr mynediad, tra mai'r gwter yn draenio terfyn deheuol y pant cloddio yw'r un a nodwyd yn y tŷ crwn a gloddiwyd yn nhraen 2, a oedd yn mynd o dan derfyn deheuol y clawdd gan wagio hefyd i'r rhodfa fynediad.  Mae presenoldeb gwteri draenio yn y rhodfa fynediad yn debyg iawn i'r hyn a nodwyd gan Alcock yng Nghastell Odo.

Draen 5

Yn Nraen 5 darganfuwyd gweddillion terfyn gogleddol y clawdd mewnol yn ogystal â nifer o dai crynion, i gyd wedi eu difrodi'n ddrwg.  Un o'r rhain oedd y tŷ crwn a ddarganfuwyd gyntaf ar hyd ochr ddeheuol Traen 3C yn 2010.  Drachefn, yn bur debyg i'r hyn a gafwyd yn nraen 3 gerllaw, mae'r dilyniant stratigraffig o adeiladu tai crynion yn nraen 5 yn bur gymhleth, gyda nifer o gamau adeiladu â choed yn rhagflaenu adeiladu'r clawdd mewnol.  Cafodd y clawdd mewnol, yn ei dro, ei ddileu'n rhannol yn ddiweddarach drwy adeiladu nifer o dai crwn o garreg. 

Yng nghornel orllewinol y draen roedd ardal wedi'i gorchuddio â cherrig mawr, mae'n debyg wal syrthiedig y tŷ crwn olaf a adeiladwyd yn y fan hon.  O dan y rhain, darganfuwyd pydew ag ochrau carreg iddo.   Wrth gloddio'r pydew darganfuwyd dau lain gwydr glas.  Yn union wrth ochr y pydew o dan yr haen gerrig llac, darganfuwyd cregyn môr.  Roedd yn ymddangos bod y cregyn wedi cael eu gadael yn wreiddiol mewn bag o ddeunydd organig ac fe wnaethant oroesi yn y pocedi gwag lle nad oeddent wedi eu hamgylchu'n gyfan gwbl gan y priddoedd asidig iawn.  Hefyd darganfuwyd dwy sidell garreg bellach yn y rhan hon o'r draen, o dan wal syrthiedig y tŷ crwn uchod a nesaf at y pydew ag ochrau

Y pydew ag ochrau carreg iddo yn Nraen 5.

Canlyniadau cloddiadau 2015 (Tymor 6)

Fe wnaeth cloddiadau yn ystod haf 2015 ganolbwyntio ar gwblhau'r gwaith o amgylch y fynedfa a dechrau archwilio tu mewn y lloc mewnol. Erbyn diwedd tymor 6 roedd oddeutu 1100 m2 (c. 11%) o loc cylchfur dwbl Meillionydd wedi cael ei gloddio.  Fe wnaeth cloddiadau 2015 nid yn unig helpu i wneud siâp y fynedfa fewnol i'r lloc yn gliriach, ond hefyd fireinio'r dasg o nodi'r gwahanol gamau adeiladu ar y safle.
Gellir pennu dilyniant cronolegol 8 prif gam adeiladu i gyd, gyda rhai o'r prif gamau'n cynnwys nifer o is-gamau.  O'r camau hynny, nodweddir y ddau gam cyntaf (y gellir eu his-rannu ymhellach yn 5 o is-gamau na ellir pennu eu trefn gronolegol) gan dai crynion wedi eu hadeiladu o goed; tra yn y 6 cham olaf, mae waliau'r tai crynion a'r cloddiau sy'n amgau'r safle wedi eu hadeiladu o bridd gydag wyneb o gerrig sych iddynt.  Mae'r dull adeiladu olaf hwn yn dal i gael ei ddefnyddio yn yr ardal i adeiladu waliau terfyn caeau, yn cynnwys y rhai sydd o amgylch y cae y mae'r safle wedi'i leoli ynddo.

MD 10-15 sequence (small)

Y camau adeiladu ym Meillionydd (delwedd: R. Karl). 

Prif gam cyntaf anheddu ym Meillionydd oedd anheddiad agored (heb ei amgáu).  Gwelwyd bod dau is-gam gwahanol (1A a 1B) yn perthyn i'r cam hwn.  Mae o leiaf un o'r adeiladau o un o'r is-gamau hyn yn gorgyffwrdd yn rhannol ag adeilad o'r is-gam arall, gan ddangos na all y ddau fod yn gyfoes â'i gilydd; er na ellir pennu eu dilyniant cronolegol.  Hefyd, mae un o'r adeiladau hyn yn gorgyffwrdd â'r palisâd pren sy'n diffinio 2il brif gam anheddu'r safle, tra byddai'r llall yn blocio'r giât yn arwain drwy'r palisâd bron yn gyfan gwbl, sy'n golygu ei bod yn amhosibl, neu'n annhebygol iawn, eu bod yn gyfoes â'r lloc gyda'r palisâd pren o'i amgylch.  Mae'r prif gam hwn hefyd yn cynnwys yr adeiladau mwyaf a gloddiwyd hyd yma ar y safle, gydag un enghraifft a gloddiwyd yn rhannol gyda diamedr o c. 15 metr.  Mae'n debygol bod y cam hwn yn dyddio o'r cyfnod o newid o'r Oes Efydd Ddiweddar i'r Oes Haearn.

Yr ail brif gam anheddu ym Meillionydd oedd anheddiad gyda phalisâd pren o'i amgylch.  Gwelwyd bod tri is-gam gwahanol(2A, 2B a 2C) yn perthyn i'r cam hwn o adeiladu.  Yn debyg iawn i'r prif gam cyntaf, mae un o'r adeiladau o is-gam 2A yn gorgyffwrdd yn rhannol ag adeilad arall o is-gam 2B, sy'n golygu na allent fod wedi sefyll yr un pryd â'i gilydd.  Ymhellach, mae'r tŷ crwn mawr yng Ngham 2C hefyd yn gorgyffwrdd â'r ddau dŷ hyn.  Unwaith eto, mae'n amhosibl penderfynu dilyniant cronolegol yr adeiladau sy'n diffinio'r tri is-gam ym mhrif gam 2.  Yn ogystal, mae pob un o'r tri adeilad hyn hefyd yn gorgyffwrdd â'r ddau dŷ a oedd yn gorgyffwrdd â'i gilydd o brif gam cyntaf y safle, sy'n dangos na allai'r un o'r 5 adeilad hyn fod wedi bod yn gyfoes ag unrhyw un o'r pedwar arall.  
Roedd y lloc a oedd yn diffinio ail brif gam anheddu ym Meillionydd yn cynnwys palisâd pren gyda phorthdy a ffos siâp U.  Mae darganfyddiadau o wrthrychau Haearn wedi cyrydu'n ddrwg, ond dim gwrthrychau Efydd, yn nau ben y ffos hon yn dangos bod y cam adeiladu hwn mae'n fwy na thebyg wedi digwydd yn yr Oes Haearn ei hun, yn hytrach nag yn ystod y cyfnod o newid o'r Oes Efydd Ddiweddar i'r Oes Haearn.  Yn ystod y diwethaf o'r tri is-gam ym mhrif gam 2, adeiladwyd ffordd gydag wyneb o gerrig iddi drwy'r fynedfa i'r lloc, gyda'r cerrig hyn yn rhannol yn mynd dros ben gogleddol y ffos siâp U (dangosir yn is-gam 2C ar y ddelwedd yn dangos y dilyniant adeiladu).

Cafodd y cylchfur dwbl o bridd gydag wyneb o gerrig sych iddo, sy'n parhau i nodi ymddangosiad allanol y safle, ei adeiladu ar ddechrau trydydd cam anheddu ym Meillionydd.  Gan ddilyn y llinell a bennwyd gan y ffos siâp U yng ngham 2, cloddiwyd deunydd i adeiladu clawdd allanol y safle.  Yr un modd, mae'n ymddangos bod y deunydd i adeiladu'r clawdd mewnol wedi cael ei gloddio o bant cloddio mewnol.  Yr un pryd fe wnaeth y cloddio hwn greu arwyneb gwastad cyfleus i adeiladu tai crynion yn syth y tu mewn i bob un o'r cloddiau.
Mae'n ymddangos nad oedd y fynedfa drwy'r lloc allanol yn ddim mwy na bwlch cul c. 1.8 metr o led yn y clawdd allanol.   Mae'r fynedfa i'r lloc mewnol, ar y llaw arall, yn ymddangos yn llawer mwy caboledig.  Er eu bod wedi cael eu chwalu i raddau helaeth gan weithgaredd adeiladu diweddarach o amgylch y fynedfa fewnol, roedd yn bosibl gweld bod y pen deheuol a gogledd fel pe bai wedi llunio rhodfa fynediad o hyd sylweddol (c. 15 metr) yn troi at i mewn.  Yn ei ganol yn fras roedd giât neu borthdy o faint sylweddol, a ddisodlwyd yn ddiweddarach gan adeiladwaith cyffelyb yng Ngham 3b.  Cafodd y ffordd wyneb cerrig a oedd eisoes yn arwain i ganol y lloc yng ngham 2C ei hailwynebu'n rhannol o leiaf ac arweiniai drwy'r giât allanol a mewnol i loc cylchfur dwbl cam 3.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cafodd y set mortar a phestl hon ei darganfod yn un o'r tai crynion ger y fynedfa drwy'r clawdd mewnol.

Mae'n ymddangos bod amryw o dai crynion gyda muriau wedi'u hwynebu â cherrig sych, a adeiladwyd wrth ochr y clawdd mewnol neu i mewn iddo, hefyd yn perthyn i'r prif gam hwn o anheddu.  Yn union i'r de o'r fynedfa allanol a mewnol, adeiladwyd tŷ crwn yn erbyn ochr fewnol pob clawdd, gan ymwthio'n rhannol iddynt.  Ni ellir penderfynu i sicrwydd wrth gwrs ai diben y rhain oedd gweithredu fel adeiladau i warchod y ddwy fynedfa.  Mae'n werth nodi, fodd bynnag, bod ochr fewnol pen deheuol y clawdd allanol wedi cael ei ymestyn ychydig at i mewn i ffurfio un ochr i'r porth yn arwain i'r tŷ sy'n gysylltiedig ag ef ac a adeiladwyd yn rhannol iddo; a bod gwter draenio'r tŷ crwn hwnnw'n arwain allan o'r lloc o dan y clawdd allanol.  Mae hyn yn dangos bod pen deheuol y clawdd allanol a'r tŷ crwn a adeiladwyd iddo wedi cael eu cynllunio a'u hadeiladu gyda'i gilydd, sy'n awgrymu eu bod nid yn unig wedi'u llunio'r un pryd ond eu bod hefyd yn gweithredu fel un uned ('giât a phorthdy'). 

Yn ogystal, dros y cam hwn a'r camau dilynol, roedd amryw o dai crynion carreg yn sefyll y tu mewn i'r safle, er na ellir pennu'r rhain (hyd yma beth bynnag) i unrhyw gam adeiladu neilltuol.  At ei gilydd, roedd y tai crynion hyn yn sylweddol lai ar gyfartaledd na thai crynion pren y camau cynharach, gyda'r rhai mwyaf ohonynt yn anaml yn fwy na 8m o ran diamedr mewnol.   Hefyd, tyllwyd nifer o bydewau storio sylweddol (dim ond tri sydd wedi cael eu harchwilio hyd yma) ger canol y safle, ar frig y bryn neu'n agos at hynny.  Ni ellir pennu'r rhain chwaith i unrhyw gam neilltuol, ac mae'n ymddangos yn annhebygol eu bod i gyd yn gyfoes â'i gilydd. Felly, mae'n debyg mai dim ond un neu ddau ohonynt oedd yn cael eu defnyddio'r un pryd, gydag un newydd yn cael ei agor pan nad oedd modd defnyddio un o'r lleill mwyach.

Eisoes ym mhrif gam 4 cafodd y clawdd mewnol, neu o leiaf y fynedfa ddwyreiniol i'r lloc mewnol, eu gadael (ni phennwyd hyd yma a oedd yna fynedfa arall i'r lloc mewnol mewn man arall).  Yn hytrach, cafodd tŷ crwn ei adeiladu i’r rhodfa fynediad, gan ddileu rhannau o derfynau’r clawdd ar y ddwy ochr.  Efallai bod y fynedfa allanol hefyd wedi dechrau dadfeilio'r adeg hon, neu efallai iddi gael ei lledu ychydig, gyda gwaith pellach ar ailwynebu'r ffordd yn arwain i mewn i'r lloc (ac yn wir hyd at y clawdd mewnol) yn mynd dros rannau o ben deheuol y fynedfa allanol. 
Ym mhrif gam 5 gwelir y fynedfa fewnol ddwyreiniol flaenorol yn cael ei niweidio ymhellach drwy i dŷ crwn arall gael ei adeiladu i mewn i rodfa’r giât fewnol flaenorol, er ei fod ychydig fetrau ymhellach at y tu allan.   Gan fod y darnau sydd wedi goroesi o waliau'r tŷ crwn hwn yn torri'n rhannol ar draws wal tŷ crwn y cam blaenorol, mae'r stratigraffeg yn dangos bod yn rhaid i'r cam hwn ddilyn ar ôl yr un blaenorol, yn hytrach nag i'r gwrthwyneb. 

Yn ystod cam 6, cafodd pen gogleddol y gyn fynedfa fewnol i'r lloc ei ddileu ymhellach gan dŷ crwn arall a godwyd yn y fan hon.  Mae'r tŷ crwn hwn, a godwyd ychydig fetrau ymhellach i'r gogledd orllewin na rhai'r ddau gam blaenorol, yn gorffwys yn rhannol dros derfyn gogleddol y clawdd mewnol, gan ei leihau'n sylweddol o ran ei hyd.

Ym mhrif gam 7, cafodd y tŷ crwn a ddinistriodd derfyn y clawdd ei ddisodli gan un mwy a adeiladwyd fwy neu lai yn yr un fan.  Mae'r tŷ crwn hwn yn awr yn gorffwys ar yr union fan lle byddai pen gogledd y clawdd mewnol yn troi at i mewn wedi bod, ac mae'n ymddangos ei fod wedi cael gwared â bron y cyfan a oedd yn aros ohono bryd hynny.  Ychydig iawn sydd wedi goroesi o'r tŷ crwn hwn; rhan o'r toriad a wnaed i ochr y bryn i greu llwyfan gwastad iddo, ac ardal o ddyddodion llawr wedi'i selio dan wal tŷ crwn y cam dilynol.  Mae'n debyg y byddai'r clawdd mewnol yn y fan hon wedi erydu'n bur ddrwg erbyn hynny beth bynnag, efallai i'r graddau nad oedd bron i'w weld mwyach; ac mae'n ymddangos bod y fan lle safai tai crynion yn y ddau gam blaenorol wedi cael ei llenwi i mewn â rwbel ar yr adeg hon, gan ail-lunio gweddillion pen deheuol y clawdd mewnol yn sylweddol hefyd.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Darn o sidell addurnedig a ddarganfuwyd yn ystod cloddiad 2015.

Yn ystod y cam anheddu terfynol, sef prif gam 8, cafwyd gwared ar y tŷ crwn blaenorol bron yn llwyr a chodwyd un arall bron yn union yn yr un fan.  Gan fod bron y cyfan o'r un neu ddwy haen isaf o'i wal gerrig fewnol wedi goroesi, roedd yn bosibl gweld bod mynedfa'r tŷ crwn hwn yn wynebu'r de ddwyrain, gan fynd drwy'r hyn a oedd yn weddill efallai o ben gogleddol y clawdd mewnol bryd hynny.
Ni ellid penderfynu p'un a oedd y clawdd allanol yn dal i sefyll yn sylweddol bryd hynny, neu a oedd wedi erydu'n ddrwg yn barod fel y clawdd mewnol.   Felly, mae'n bur bosibl drwy gydol llawer o gamau diweddaraf anheddu ym Meillionydd, amgaeid yr anheddiad gan ddim ond un clawdd (yr un allanol), gyda bwlch syml fel mynedfa, gyda'r clawdd mewnol yn dal yn weladwy i raddau, ond yn araf gael ei erydu.  Gall hyd yn oed fod yn bosibl drwy gydol llawer o gamau 4-7 nad oedd y cloddiau'n cael eu cynnal a'u cadw'n briodol bellach, er y byddent yn sicr yn weladwy i ryw raddau, gan droi Meillionydd unwaith eto'n aneddiad 'agored' (fwy neu lai heb ei amgáu).

MD 10-15 complete plans (tiny)

 

 

 

 

 

 

 

 

Cynllun draeniau 1-6 (delwedd: R. Karl). 

Ar ddiwedd eu cyfnod anheddu, mae'n ymddangos hefyd bod llawer o'r tai crynion a adeiladwyd o gerrig (pa bynnag gam adeiladu y perthynent iddo) wedi cael eu llenwi'n fwriadol â cherrig llai - llawer ohonynt ag effeithiau gwres i'w weld arnynt - gan arwain at fewnlenwad rhydd iawn weithiau o gerrig.  Weithiau, mae cyn lleied o bridd rhwng y cerrig hyn fel bod bylchau sylweddol (pocedi aer) rhyngddynt.  Eto, ychydig iawn o bethau o unrhyw fath a ddarganfuwyd yn y mewnlenwadau hyn, gan ei gwneud yn annhebygol bod tai crynion a adawyd wedi cael eu mewnlenwi â sbwriel cyffredin o'r anheddiad.  Yn hytrach, mae'n ymddangos bod hyn yn 'ddefod gau' benodol a gyflawnid pryd bynnag roedd tŷ'n cael ei adael ac/neu ei ddisodli gan un arall.  Yn ddiddorol, gwelir y broses fewnlenwi hon hefyd yn nhŷ crwn y cam terfynol (cam 8) yn ardal y fynedfa fewnol.  Mae hyn yn dangos naill ai bod anheddu ar y safle wedi parhau ar ôl i'r tŷ olaf gael ei adael, pe na bai ond mewn rhannau eraill o'r safle, neu fod y 'ddefod gau' hon wedi digwydd hefyd pan gafodd y safle ei adael yn gyfan gwbl.

Cynlluniau gyfer gwaith cloddio yn 2016 (Tymor 7)

Yn 2016 caiff draen 20 x 15 metr ei hagor i'r gogledd orllewin o draen 6 flaenorol er mwyn archwilio'r tu mewn i'r lloc ymhellach.  Dylai hyn ddatgelu ardal y bu adeiladu sylweddol ynddi ar ochr ogledd orllewinol y lloc a'n galluogi i gloddio'n rhannol y tŷ crwn mwyaf ar y safle.