Croeso i'r Prosiect Meillionydd

Cloddiadau Meillionydd

Nod y project cloddio hwn yw ymchwilio i gronoleg, ffurf, nodwedd ac anheddu yn y lloc pen bryn yn Meillionydd, ger Y Rhiw ar benrhyn Llŷn yng ngogledd orllewin Cymru.

Mae Meillionydd yn lloc cylchfur dwbl – sef math o loc pen bryn a geir yn bennaf ar benrhyn Llŷn.  Ceir yr aneddiadau hyn ar ben bryniau isel ac maent yn cynnwys dau glawdd crwn o bridd a cherrig gyda dyrnaid o dai crynion o’u mewn.  Mae’n debygol bod y llociau’n gartrefi parhaol i nifer o grwpiau teuluol ac roeddent hefyd yn fannau lle roedd gweithgareddau cymunedol mwy yn cael eu cynnal.  

Mae ein tymhorau cloddio, yng Ngorffennaf 2010, 2011, 2012, 2013, a ym Mehefin a Gorffennaf 2014 a 2015, wedi dangos y bu pobl yn byw ym Meillionydd am gyfnod cymharol hir ac mae gennym dystiolaeth o dai crwn pren cynnar gyda ffos o’u hamgylch, a thai crwn cerrig diweddarach a chloddiau consentrig o amgylch y lloc.  Mae dyddio radio carbon yn awgrymu fod Meillionydd yn dyddio o leiaf rhwng c. 800 – 200 cal. CC – ac mae’n debygol bod yr anheddiad yn dyddio o ddiwedd yr Oes Efydd Ddiweddar i ganol yr Oes Haearn Ganol.


Llun o Meillionydd, Mynydd Rhiw yn 2011 (ffoto: Dafydd Davies Hughes).

Rydym wedi lleoli ein ffosydd gan ddefnyddio arolwg geoffisegol a wnaed gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn 2007, a oedd yn dangos sawl maes gweithgaredd a nodweddion i’w targedu.  Yn ystod y pum tymor cyntaf, mae’r draeniau wedi cael eu cyfyngu i ochr ddwyreiniol tu mewn y lloc ac o amgylch y ffiniau wrth ochr y fynedfa ddwyreiniol.  O’r 6ed tymor ymlaen, byddwn yn agor draeniau pellach i gyfeiriad gogledd-orllewinol i gael trawstoriad o’r safle.  Nod y cloddiadau ym Meillionydd yw gweld a yw dechreuadau’r safle’n mynd yn ôl i’r nawfed a’r wythfed ganrif CC, tebyg i loc cylchfur dwbl Castell Odo gerllaw, yn ogystal â:

  1. chasglu data ar adeiladu terfynau’r lloc a'r gwahanol gamau adeiladu;
  2. asesu dilyniant arferion anheddu y tu mewn i’r lloc;
  3. darparu deunyddiau y gellir eu dyddio a darparu dilyniant cronolegol ar gyfer y safle hwn, yn ogystal â llociau cylchfur dwbl eraill yn yr ardal.

Yr arolygon sydd wedi cael eu gwneud ym Meillionydd

Ymchwiliwyd i Feillionydd gyntaf yn 2007 gan George Smith a Dave Hopewell o Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Fe wnaethant gynnal arolwg magnetometer a ddangosodd loc hirgrwn gyda chloddiau o’i amgylch, 105m wrth 85m, gyda llwyfannau tai crwn y tu mewn i’r clawdd mewnol ac yn y canol.  

Gwnaed arolwg GPR diweddar gan Klaus Loecker, Mario Wallner a  Ray Karl yn Ebrill 2012, gyda thîm o’r Ludwig Boltzmann Institute for Archaeological Prospection Vienna. Cafwyd canlyniadau trawiadol o’r arolwg hwn a roddodd ddata ychwanegol ynghylch adeiladwaith a chynllun yr anheddiad.  

Yr arolwg gradiomedr gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd. Dangosir draeniau arbrofol 2010 mewn coch. Dangosir draeniau 2011 mewn gwyrdd, draeniau 2012-13 mewn glas, draeniau 2014 mewn melyn a draeniau 2015 mewn pinc. 

 

http://meillionydd.bangor.ac.uk/images/5.jpg

Canlyniadau’r arolwg GPR a wnaed yn 2012 (o’r chwith uchaf i’r dde gwaelod: mae’r data crai wedi’u crynhoi i dafelli 30cm drwy’r archaeoleg.  Mae’r ddelwedd gyntaf yn dangos y data crai ar gyfer y 30cm cyntaf o dan yr uwchbridd).

 

http://meillionydd.bangor.ac.uk/images/0clip_image008.gif

Mae’r dehongliad hwn o arolwg GPR 2012 yn dangos y ffos (brown) a – lle bo’n bosibl – y gwahanol fathau o dai crynion (glas = tŷ crwn amhenodol, melyn = tŷ crwn pren a gwyrdd = tŷ crwn carreg) sydd o bosib i’w cael ar y safle. Yn ogystal, mae’n cynnwys Draeniau 1, 2 a 3 mewn gwahanol gamau o’u hagor. 

 

Pam ydym ni wedi targedu’r llociau cylchfur dwbl?

Mae’r llociau cylchfur dwbl yn rhoi cyfle unigryw i astudio dechreuadau aneddiadau yn yr Oes Efydd Ddiweddar a’r Oes Haearn Gynharaf (c.1000/900 – 600 CC).  Er bod deg safle cylchfur dwbl ar Benrhyn Llŷn, dim ond un oedd wedi cael ei gloddio cyn y project hwn – sef Castell Odo. Cloddiwyd y safle hwn gan Leslie Alcock yn y 1950au ac yno cafwyd hyd i gasgliad prin a phwysig o cerameg o’r Oes Efydd ddiweddar, yn dyddio efallai i tua’r nawfed i’r seithfed ganrif CC.  Roedd y cerameg mewn tomen o bridd tywyll yn cynnwys llawer o arteffactau.  Roedd y domen hon wedi’i gwasgaru o amgylch palisâd pren a oedd yn ffurfio terfyn pren cynnar i’r lloc, a thu mewn roedd tai crwn pren.  Roedd y domen a’r palisâd wedi’u selio o dan y clawdd o’r Oes Haearn, a adeiladwyd mae’n debygol yn yr Oes Haearn Gynnar, c. chweched i’r bumed ganrif CC, ac a oedd yn gysylltiedig â’r tai crwn cerrig.  

Mae ein gwaith wedi dangos y gall fod dilyniant tebyg o weithgaredd ym Meillionydd – gan ein bod wedi amlygu lloc cynharach gyda ffos neu balisâd y torrwyd ar ei thraws gan y pant cloddio ar gyfer y cloddiau diweddarach.  Gwaetha’r modd, fodd bynnag, nid ydym wedi darganfod unrhyw arteffactau cerameg o’r Oes Efydd Ddiweddar ac mae angen i ni gael dyddiadau radio carbon i’r terfynau er mwyn pennu dyddiadau i bob cam o’r gwaith adeiladu ar y safle.  

 

http://meillionydd.bangor.ac.uk/images/6.jpg

Map yn dangos lleoliad safleoedd cylchfur dwbl (smotiau porffor) a bryngaerau (sêr coch) ar benrhyn Llŷn.  Mae’r smotiau duon yn dangos lleoliad aneddiadau tai crwn.