Dyddiau Agored a Gweithgareddau Estyn Allan

Fel yn y gorffennol, mae cyfres o ddyddiau agored a gweithgareddau cymunedol wedi cael eu trefnu ar gyfer tymor 2015. Mae'r diwrnodau agored wedi cael eu trefnu ar gyfer dydd Sadwrn a dydd Sul, 11 a 12 Gorffennaf 2015. Ar y ddau ddiwrnod bydd y tîm ar y safle o 11am tan 4pm. Byddwn yn arddangos yr hyn rydym wedi ei ganfod, yn rhoi teithiau o amgylch y safle ac yn rhoi cyfle i chi gam i mewn i'r ffos eich hun.
Drwy gydol y tymor wyth wythnos o gloddio, cynhelir gweithgareddau eraill mewn cydweithrediad â Dafydd Hughes o Fenter y Felin Uchaf, Rhys Mwyn, ac Arwel Jones o Bartneriaeth Tirwedd Llŷn (gwelwch y rhaglen isod).

Yn ogystal â'r diwrnodau agored a drefnwyd, mae croeso i ymwelwyr unrhyw bryd gan fod Meillionydd yn safle agored. Bydd y tîm ar y safle o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am tan 5pm os bydd y tywydd yn caniatáu. Gall aelodau'r tîm cloddio roi teithiau drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg. Rydym ni hefyd yn cynnig ymweliadau â'r safle i ysgolion lleol ac yn eu hannog i gysylltu ymlaen llaw i drefnu dyddiad ac i'n helpu i wneud trefniadau ar gyfer y grŵp mawr. Yn yr un modd, rydym ni'n gofyn i unrhyw grwpiau mawr neu gymdeithasau eraill sy'n dymuno ymweld, gysylltu â ni ymlaen llaw.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli ar y gloddfa, edrychwch ar yr adran Ysgol Maes ar ein gwefan. Gellwch hefyd ein dilyn ar Facebook a Twitter.

Cliciwch yma i gael mwy o fanylion am weithgareddau cymunedol a diwrnodau agored 2015

Cliciwch ar y cysylltau isod ar gyfer ein partneriaid:

Gwelwch isod am luniau o'r gwyliau a gynhaliwyd yn 2011 a 2012. Yn 2011, ariannwyd yr ŵyl drwy Grant Eich Treftadaeth o Gronfa Treftadaeth y Loteri. Yn 2012 ariannwyd yr ŵyl gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn, ac yn 2013 a 2014 ariannwyd yr ŵyl gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn a Phartneriaeth Tirwedd Llŷn.